MANYLION Y SWYDD
BAND Y SWYDD: TRN
MATH O GONTRACT: Tymor Penodol, Llawn amser
ADRAN: Radio Cymru
LLEOLIAD: Caerdydd neu Fangor
YSTOD CYFLOG: £24,552 y flwyddyn - mae’r amrediad cyflog disgwyliedig ar gyfer y swydd hon yn adlewyrchu meincnodi mewnol a gwybodaeth am y farchnad allanol.
BBC EXTEND
Mae’r swydd hon yn cael ei hysbysebu fel rhan o raglen BBC Extend ar gyfer pobl anabl. I wneud cais am y rôl hon dylech ystyried eich hun yn fyddar, yn anabl neu’n niwrowahanol a rhaid i chi fodloni naill ai: y diffiniad o anabledd yn Neddf Cydraddoldeb (2010), neu'r diffiniad o anabledd yn Neddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd (1995) os ydych yn ymgeisio yng Ngogledd Iwerddon. Cewch eich diffinio’n fras fel unigolyn anabl o dan y ddwy ddeddf os oes gennych nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith negyddol ac andwyol hirdymor a sylweddol ar eich gallu i gyflawni gweithgareddau dyddiol arferol. Mae’r diffiniad hwn yn cynnwys cyflyrau a namau amlwg a heb fod yn rhai amlwg, a chyflyrau meddygol fel Canser, HIV neu Sglerosis Ymledol.
Rydym wedi ymrwymo i wneud y broses o wneud cais am y swydd hon mor hygyrch â phosibl. Os oes angen i chi drafod addasiadau neu ofynion mynediad ar gyfer y broses ymgeisio, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ein rhaglen Extend, cysylltwch â thîm BBC Extend drwy flwch derbyn Amrywiaeth a Chynhwysiant y BBC.
Mae’r BBC wedi ymrwymo’n llwyr i ddarparu addasiadau i’r gweithle i helpu i gael gwared ar rwystrau yn y gweithle sy’n wynebu pobl anabl. I wneud hyn, mae gennym ein Gwasanaeth Mynediad ac Anabledd pwrpasol ein hunain ar gyfer y BBC sy’n darparu asesiadau a chymorth drwy gydol ein cyflogaeth gyda ni. Os byddwch yn llwyddo yn eich cais am y rôl hon a bod angen addasiadau yn y gweithle arnoch, byddwn yn gweithio gyda chi i roi eich addasiadau ar waith.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am BBC Extend, ewch i dudalen we BBC Extend.
PWRPAS Y SWYDD
Dyma eich cyfle i brofi sut beth yw gweithio i Radio Cymru, cartref radio Cymraeg. Byddwch yn derbyn profiad ymarferol, dysgu gan weithwyr proffesiynol y diwydiant, gan ddatblygu eich sgiliau mewn amgylchedd creadigol a chyflym ei rythm.
Mae hyn yn fwy na phrofiad gwaith yn unig – mae’n gyfle i dyfu’n bersonol ac yn broffesiynol mewn maes rydych chi’n angerddol amdano. Os ydych chi’n barod i adael eich marc ar ddarlledu, dyma eich cyfle.
PAM YMUNO GYDA'R TÎM :
Ymunwch â thîm sy’n gwerthfawrogi positifrwydd, creadigrwydd a chydweithio. Mae’r cyfle unigryw hwn yn rhoi cipolwg i chi y tu ôl i’r llen ar ddarlledu Cymraeg, lle byddwch yn dysgu sut mae rhaglenni’n dod yn fyw gan gyfrannu at ddiwylliant cynhwysol a chefnogol. Cewch brofiad ymarferol gan weithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol angerddol drwy ddatblygu sgiliau a fydd yn siapio eich dyfodol.
EICH PRIF GYFRIFOLDEBAU A'CH DYLANWAD :
Meddu ar agwedd ragweithiol tuag at ddysgu.
Bod yn gyfforddus yn gofyn cwestiynau er mwyn datblygiad personol.
Agored i ymgysylltu mewn amgylchedd gwaith strwythuredig, sy’n newid yn barhaus.
EICH SGILIAU A'CH PROFIAD :
Angerdd dros ddarlledu a’r cyfryngau.
Cymhelliant i hunan-ddatblygu er mwyn paratoi ar gyfer datblygiad gyrfa.
Profiad o ymgolli yng nghynnwys y BBC gyda'r gallu i’w adolygu’n feirniadol.
Cydweithio a chyfathrebu’n effeithiol ag eraill.
MEINI PRAWF HANFODOL :
Siaradwr Cymraeg
Angerdd dros ddarlledu a’r cyfryngau