Math o Gontract: Prentisiaeth Cyfnod Penodol, Llawn-amser am 24 mis
Lleoliad: Caerdydd - 3 Sgwâr Canolog
Cyflog: £22,950
AI UN O BRENTISIAETHAU’R BBC YW’R SWYDD NESAF I CHI?
Ymunwch â ni fel prentis yn y BBC i roi hwb i’ch gyrfa mewn swydd y byddwch wrth eich bodd â hi. Rydym ni wedi ymrwymo i’ch helpu chi i ddatblygu eich sgiliau a’ch talent. Byddwch yn dysgu yn y gwaith ac yn cael cyfle i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau mewn maes y mae gennych chi ddiddordeb mawr ynddo, a hynny wrth weithio tuag at eich cymhwyster prentisiaeth gydag un o’n darparwyr dysgu.
PAM YMUNO Â’R CYNLLUN?
Mae’r Brentisiaeth Newyddiadurwr yn cynnig hyfforddiant o’r radd flaenaf i bobl sydd eisoes yn dangos eu potensial fel newyddiadurwyr ac sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau newyddiadurol.
Fel Prentis Newyddiadurwr yn un o sefydliadau darlledu gwasanaeth cyhoeddus mwyaf y byd, cewch gyfle i gael profiad ymarferol a chreu cynnwys newyddion materion cyfoes o ansawdd uchel ar gyfer y BBC. Byddwch yn meistroli technegau newyddiadurol hanfodol; gan gynnwys ymchwilio, ysgrifennu a darlledu straeon am amrywiaeth eang o bynciau.
Ochr yn ochr â hyn i gyd, byddwch hefyd yn dysgu gan weithwyr proffesiynol profiadol yn y diwydiant ac yn gweithio gyda nhw o ddydd i ddydd. Byddwch yn gweithio tuag at Brentisiaeth Lefel 6 a Chymhwyster Cenedlaethol mewn Newyddiaduraeth (NQJ) gan y Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Hyfforddi Newyddiadurwyr (NCTJ). Mae’r cymhwyster hwn yn cael ei gydnabod gan y diwydiant.
I gael rhagor o wybodaeth am y cynlluniau rydym ni'n eu cynnig, gallwch gofrestru i ymuno ag un o'n gweminarau yma. Cadw llygad ar ein rhestr chwarae gwe-dathliad ar Youtube yma.
EICH PRIF GYFRIFOLDEBAU A’CH DYLANWAD
Mae’r rhaglen drochi (JOA26) yn cyfuno hyfforddiant gan arbenigwyr sydd â phrofiad ymarferol, ynghyd â chymorth wedi ei deilwra i’ch helpu chi i ddatblygu. Byddwch yn cwblhau modiwlau craidd - fel technegau ymchwil, gwerthuso ffynonellau, dadansoddi data, creu cynnwys amlgyfrwng, cyfraith y cyfryngau a llawer mwy - gan roi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithio ym maes newyddiaduriaeth heddiw. Fel rhan o’ch asesiad terfynol, byddwch yn gweithio tuag at Gymhwyster Cenedlaethol yr NCTJ mewn Newyddiaduraeth (NQJ), sy’n cael ei gydnabod ar draws y diwydiant fel meincnod rhagoriaeth.
I gael rhagor o wybodaeth am safon y brentisiaeth, ewch i’r ddolen hon. Mae’r safon hon wrthi’n cael ei hadolygu er mwyn troi’n safon Lefel 6.
Mae rhagor o wybodaeth am Gymhwyster Cenedlaethol yr NCTJ mewn Newyddiaduraeth ar gael yma.
EICH SGILIAU A’CH CYMHWYSEDD
Rydym ni eisiau gwybod pam eich bod chi’n awyddus i weithio yn y BBC ac mae gennym ddiddordeb yn eich brwdfrydedd i ddarparu cynnwys o’r radd flaenaf a rhagoriaeth weithredol i’n cynulleidfaoedd. Nid ydym yn canolbwyntio ar eich cymwysterau, yn hytrach rydym ni’n chwilio am botensial, a byddwn yn rhoi cyfle i chi roi eich profiad a’ch cryfderau trosglwyddadwy ar waith mewn gwahanol ffyrdd.
Rydym ni’n chwilio am bobl sydd ar ddechrau eu gyrfa fel newyddiadurwr ac sy’n gallu dangos eu sgiliau newyddiadurol a’u sgiliau dweud stori mewn gwahanol ffyrdd. Efallai eich bod chi’n ysgrifennu erthyglau i wefan neu bapur newydd lleol, yn gweithio mewn gorsaf radio sydd yn rhannu cynnwys newyddion, yn blogio neu’n flogio, neu’n creu cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol. Mae’n bosib y bydd gennych chi hefyd Ddiploma NCTJ neu gymhwyster arall mewn Newyddiaduraeth, fel y Brentisiaeth Newyddiadurwr Lefel 5.
Os oes gennych chi rai o’r sgiliau a’r profiadau hyn, ynghyd â chryfderau trosglwyddadwy, byddem yn falch o glywed gennych chi ac rydym yn eich annog i wneud cais:
Yn dangos eich bod eisoes yn meddu ar sgiliau newyddiadurol
Yn agored ac yn chwilfrydig am bobl a’r hyn sy’n digwydd yn y byd
Yn gallu meddwl am syniadau gwreiddiol a chreadigol am ffyrdd o gyrraedd cynulleidfaoedd newydd
Yn darllen, yn gwylio ac yn gwrando ar y newyddion yn rheolaidd ar bob llwyfan
Yn hyblyg, yn llawn cymhelliant ac yn barod i addasu i gyflymder y gwaith.
MEINI PRAWF CYMHWYSEDD
Mae’n rhaid i chi fodloni’r gofynion canlynol i fod yn gymwys ar gyfer prentisiaeth yn y BBC:
Bod yn 18 oed neu’n hŷn erbyn y bydd y brentisiaeth yn dechrau ym mis Medi 2026
Bod wedi byw yn y DU yn ddi-dor am y 3 blynedd cyn dechrau’r brentisiaeth
Bod yn gymwys yn gyfreithiol i weithio’n llawn-amser yn y Deyrnas Unedig am holl gyfnod y brentisiaeth
Bod heb gofrestru ar gynllun prentisiaeth arall sy’n cael ei gefnogi gan y BBC neu sefydliad arall ar hyn o bryd.
I wneud cais am y cynllun hwn, rhaid i chi fod:
Heb gwblhau unrhyw elfennau o’r Cymhwyster Cenedlaethol mewn Newyddiaduriaeth (NQJ) o’r blaen
Yn meddu ar un ai TGAU Mathemateg a Saesneg Gradd 4/C neu uwch, gradd C mewn cymhwyster National 5 (yr Alban), Sgiliau Swyddogaethol Lefel 2; neu gymhwyster cyfatebol.
I ymgeiswyr dan 19 oed ar 8fed Medi 2026: Er mwyn cwblhau'r brentisiaeth, rhaid i chi fod wedi cyflawni Bagloriaeth Lefel GCSE mewn Mathemateg a Saesneg yn Radd 4/C neu'n uwch neu Cwrs Cenedlaethol 5 (Yr Alban) yn C neu Sgiliau Gweithredol Lefel 2 neu gymwyster sydd yn gyfwerth. Os nad ydych wedi cyflawni'r cymwysterau hyn erbyn dechrau eich brentisiaeth, bydd yn rhaid i chi gyflawni Sgiliau Gweithredol Lefel 2 cyn diwedd eich brentisiaeth pan fyddwch yn cymryd eich asesiad pwynt terfynol.
BAROD I YMGEISIO?
Peidiwch â cholli'r cyfle i fod yn rhan o rywbeth cyffrous. Ydych chi'n gweld eich hun yn ffynnu yn y rôl hon? Cliciwch ‘Ymgeisio Nawr’!
Bydd angen i chi greu proffil ymgeisydd ac ateb ambell gwestiwn - does dim angen CV na llythyr cais.
Os ydych chi’n gymwys, byddwn ni’n eich tywys drwy’r camau nesaf gan roi syniad i chi o beth i’w ddisgwyl.
Bydd angen i chi fyw o fewn pellter teithio i leoliad y swydd hon. Eisiau gweithio o leoliad gwahanol? Edrychwch ar ein hysbysebion eraill - ond cofiwch mai dim ond am un swydd y gallwch wneud cais.
Mae hon yn brentisiaeth am gyfnod penodol - bydd eich contract yn para hyd ddiwedd y cynllun. Ar ôl cwblhau'r cynllun, byddwch chi’n cael eich cefnogi i ddatblygu yn eich gyrfa ac yn derbyn hyfforddiant cyflogadwyedd a chyfleoedd i rwydweithio i’ch helpu i gymryd y camau nesaf - boed hynny gyda’r BBC neu gyda sefydliad arall yn y diwydiant.