Post Job Free
Sign in

Cynhyrchydd Cynnwys

Company:
BBC
Location:
Cardiff, CF10 1FT, United Kingdom
Posted:
September 26, 2025
Apply

Description:

MANYLION Y SWYDD

BAND Y SWYDD: C

MATH O GONTRACT: Parhaol

ADRAN: Radio Cymru

LLEOLIAD: Caerdydd

YSTOD CYFLOG: £32,900 - £37,260 yn ddibynnol ar sgiliau, gwybodaeth a phrofiad perthnasol. Mae’r amrediad cyflog disgwyliedig ar gyfer y swydd hon yn adlewyrchu meincnodi mewnol a gwybodaeth am y farchnad allanol.

Rydym ni’n fodlon trafod gweithio’n hyblyg. Os hoffech chi wneud hynny, gofynnir yn garedig i chi nodi eich dymuniadau yn y cais – ond does dim rhaid i chi wneud hynny nawr. Bydd gweithio’n hyblyg yn rhan o’r drafodaeth pan gynigir y swydd.

PWRPAS Y SWYDD

Mae Radio Cymru wedi bod yn darlledu ers 1977, gyda Radio Cymru 2 wedi lansio ers Ionawr 2018. Rydym yn darlledu dros 20 awr o raglenni bob dydd i dros 100,000 o wrandawyr ar draws Cymru a’r byd. Mae Radio Cymru yn gwasanaethu siaradwyr Cymraeg o bob oedran drwy ddarparu rhaglenni cerddoriaeth, rhaglenni dogfen, rhaglenni trafod materion cyfoes a gwleidyddiaeth, y celfyddydau a llawer mwy - heb sȏn am gynnig gwasanaeth newyddion a chwaraeon llawn.

PAM YMUNO Â’R TÎM

Rydyn ni’n chwilio am gynhyrchydd creadigol i helpu Radio Cymru dyfu ei chynulleidfa. Os wyt ti’n angerddol am rannu straeon Cymraeg sy’n adlewyrchu bywyd a diwylliant cymunedau ledled Cymru, ac yn llawn syniadau ar gyfer cynnwys gwreiddiol sy’n taro deuddeg — byddem wrth ein bodd yn clywed gennyt ti. Bydd profiad o gynhyrchu digidol a llinol yn ddefnyddiol, ynghyd â dealltwriaeth o lwyfannau’r BBC a’r cyfryngau cymdeithasol.

EICH PRIF GYFRIFOLDEBAU A’CH DYLANWAD:

Bydd y Cynhyrchydd Cynnwys yn datblygu a chyflwyno cynnwys, gan sicrhau ei fod yn cyrraedd y safonau creadigol, golygyddol a thechnegol uchaf, yn darparu ar amser ac yn unol â’r gyllideb, gan lynu at ganllawiau’r BBC.

Datblygu a hyrwyddo syniadau ar gyfer cynnwys aml-lwyfan.

Cynhyrchu cynnwys unigryw ar amrywiaeth o lwyfannau gan ddefnyddio ystod o sgiliau cynhyrchu arbenigol.

Sicrhau bod y cynnwys yn adlewyrchu ein cynulleidfaoedd amrywiol.

Bod â’r wybodaeth ddiweddaraf o ran tueddiadau sy’n dod i’r amlwg yn y diwydiant.

Gweithio'n effeithiol gydag adrannau, cyflenwyr a phartneriaid (mewnol ac allanol) eraill, gan sicrhau bod y BBC yn cynnal cysylltiadau rhagorol bob amser.

Rheoli’r cyllidebau a’r adnoddau o fewn y ffiniau y cytunwyd arnynt.

EICH SGILIAU A'CH PROFIAD.

MEINI PRAWF HANFODOL:

Fel Cynhyrchydd Cynnwys, bydd gennych:

Gwybodaeth drylwyr am ganllawiau golygyddol y BBC a pholisïau cydymffurfio eraill, neu fod ag awydd a gallu i ddysgu'r wybodaeth hon yn gyflym.

Meddwl creadigol a’r gallu i roi syniadau uchelgeisiol ar waith.

Dealltwriaeth o bwysigrwydd gwerthoedd y BBC o ran cywirdeb a didueddrwydd.

Brwdfrydedd a dealltwriaeth dda iawn o’r maes y mae’r swydd yn gweithredu ynddo.

Gwybodaeth a phrofiad amlwg o’r technegau a’r technolegau cynhyrchu diweddaraf a’r sgiliau technegol i gynhyrchu cynnwys o ansawdd ar draws aml-lwyfannau.

Apply