MANYLION Y SWYDD
BAND Y SWYDD: C
MATH O GONTRACT: cytundeb cyfnod penodol, llawn amser
ADRAN: Chwaraeon BBC Cymru
LLEOLIAD: Caerdydd, Sgwar Canolog
YSTOD CYFLOG: £28,100 - £32,600 y flwyddyn yn ddibynnol ar sgiliau, gwybodaeth a phrofiad perthnasol. Mae’r amrediad cyflog disgwyliedig ar gyfer y swydd hon yn adlewyrchu meincnodi mewnol a gwybodaeth am y farchnad allanol.
PWRPAS Y SWYDD
Mae gan Adran Chwaraeon BBC Cymru Wales hanes da o ddatblygu a darparu cynnyrch gwreiddiol a gwahanol ar y teledu, radio, ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae’r adran yn cynhyrchu cynnwys byw ac wedi’i recordio ymlaen llaw ar gyfer BBC Cymru Wales ac S4C, a dyma gartref rhai o brif frandiau’r BBC ac S4C, gan gynnwys Scrum V, Match of the Day a’r Clwb Rygbi.
PAM YMUNO GYDA'R TÎM
Bydd disgwyl i'r Is-gynhyrchydd weithio ar raglenni rygbi a phêl-droed byw, yn ogystal â rhaglenni eraill sydd wedi’u recordio ymlaen llaw.VMae arbenigedd cyfryngau cymdeithasol, sgiliau hunan-saethu a golygu yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.VBydd yr Is-gynhyrchydd llwyddiannus yn rhan bwysig o adeiladu at allbwn yr adran drwy helpu i ddatblygu syniadau newydd a helpu i gyflawni ar amser ac o fewn y gyllideb.
EICH PRIF GYFRIFOLDEBAU A'CH DYLANWAD:
Gallu cynnig dulliau newydd a ffres o gyflwyno cynnwys; yn olygyddol ac yn weledol, gyda dull aml-blatfform.
Creu syniadau cyfoes a ffres ar gyfer rhaglenni neu eitemau chwaraeon.
Cydlynu’r ardal VT – ailchwarae a dadansoddi – yng Nghanolfan Sgwâr Canolog Caerdydd neu ar ddarllediadau allanol byw, gan weithio’n agos gyda gweithredwyr EVS a’u cyfarwyddo.
Gwybodaeth a gallu i ddefnyddio meddalwedd golygu – Avid Media Composer, Avid Assist/Media Manager yn ddymunol.
Gallu hunan-ffilmio hefyd yn ddymunol.
EICH SGILIAU A PHROFIAD
MEINI PRAWF HANFODOL:
Angenrheidiol bod â sgiliau yn y Gymraeg
Gwybodaeth fanwl am Chwaraeon. Yn arbennig, chwaraeon Cymreig.
Profiad o greu cynnwys a phecynnau aml-blatfform, yn y ffurf hir a byr.
Profiad o deledu byw – ar raglenni stiwdio ac ar ddarllediadau allanol.
Gwybodaeth am systemau golygu Avid